
gwasanaethau

Archwiliad rheoli
Bydd archwiliad yn tynnu sylw at wendidau strwythurol yn eich
rheolaeth. Mae'r archwiliad yn dilyn llinell y safon ISO 9001:2015
rheoli. Mae'r canfyddiadau cyffredinol yn cael eu crynhoi mewn
iaith Estyn fel eu bod yn gallu cyfrannu at eich hunan-arfarniad.

Rheoli newid
Bydd technegau rheoli newid yn eich helpu i symud yr ysgol o’r
hyn ydyw i’r hyn rydych am iddi fod. Mae'r technegau hyn yn
canolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei wneud cyn y gallwch ysgogi
newid yn ddiogel. Mae'r cam hwn yn aml yn cael eu anghofio ac o
ganlyniad, mae rheoli newid yn anoddach nag y mae angen iddo
fod.

Offer arwain a rheoli
Mae eich uwch dîm arwain yn llawn cymhelliant, yn gweithio'n
galed ond yn tueddu ail-ddyfeisio'r olwyn. Maen nhw’n rheoli eu
gwaith drwy eu presenoldeb a’u hegni, ond dydyn nhw ddim yn
systematig. Dydy hyn ddim yn gynaliadwy.
Bydd offer arwain a rheoli yn eu helpu.

Hwb arwain
Ydych chi’n chwifio neu’n boddi? Amser i gael eich arweinwyr at ei
gilydd a chanfod y bwlch rhwng lle maen nhw a lle y dylen nhw
fod.
Rhaid i'r modiwl hwn gael sesiwn ddilynol.

Hyfforddi
Mae pobl sy'n cael trafferth ymdopi’n aml yn gwneud yn dda yr hyn
nad yw'n werth ei wneud ac yn anwybyddu’r hanfodion.
Bydd tri sesiwn hyfforddi 1 i 1 yn egluro eu cymhelliant a’u
cyfeiriad.

Cymorth i lywodraethwyr
Nid oes rhaid i lywodraethwyr fynd ar gyrsiau lle mae eu hymwybyddiaeth yn dda. Mae angen iddyn nhw wybod beth i'w wneud, pryd i'w wneud a beth i'w wneud pan nad yw pethau'n mynd fel y maen nhw’n disgwyl.
Hyfforddwch nhww gydag offer ymarferol a byddan nhw’n dod yn ysgogwyr amhrisiadwy i'r ysgol.

Cymorth brys
Os ydych yn wynebu her aruthrol y mae’n rhaid delio ag e’n
gyflym, mae'n amser dod mewn â dulliau atgyfnerthu.

Cymorth addysg yn y cartref
Rydych chi ar fin cychwyn ar yr antur mwyaf cyffrous gallai unrhyw
un gael ... neu rydych eisoes ar y ffordd. Gwnewch e’n iawn a
bydd eich plentyn yn gwneud yn well nag unrhyw un arall.
Cysylltwch â mi i gael cymorth ymarferol.

Cymorth clwstwr
Mae'r clwstwr mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu cymorth ysgol i
ysgol. Fodd bynnag, mae angen iddo fod yn gryfach na’r ysgolion
unigol iddo fod yn effeithiol. Mae hyn yn golygu cael gweledigaeth
a systemau cyfathrebu wedi'u diffinio'n glir.
Adolygwch sut mae eich clwstwr yn gwneud a chanfod ffyrdd o
symud ymlaen.

e-Ddysgu
Gall e-Ddysgu effeithiol gefnogi eich disgyblion a rhoi hwb i
gyflawniad. Mae angen iddo gael ei integreiddio fel rhan o'r
cwricwlwm ehangach ac nid yw pob offer yn gyfartal. Adolygwch
effeithiolrwydd eich darpariaethau e-Ddysgu neu defnyddiwch
blatfform o’r radd flaenaf i roi hwb i gyrhaeddiad.
